Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd,
a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Medi 2023
Amser:
13.15 -
15.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13479
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Adam Price AS |
Tystion: |
Neil Hemington, Llywodraeth Cymru Owen Struthers, Llywodraeth Cymru Nicholas Webb, Llywodraeth Cymru Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Bil Seilwaith (Cymru): sesiwn dystiolaeth
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
3.1 SL(6)379 - Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)380 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(6)381 - Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Adferol) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
4.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Grwp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol.
5.2 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Bil Seilwaith (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau pellach.
8 Cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw pwyllgorau perthnasol Senedd Cymru a Senedd y DU at yr adroddiad.